Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/132

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

niymadferthedd y ffit wamal honno gollyngodd y lanter, a diffoddodd y ganwyll. Difrifolwyd ef dipyn gan y tywyllwch a thuchan yr hwsmon. Goleuodd y lanter cyn gynted ag y gallai, a gwelodd fod Siams yn suddo yn gyflym, ond fod gobaith i'r llidiart wasanaethu fel life belt. Taflodd y rhaff iddo ar unwaith, a thrwy ymdrech fawr llwyddwyd i gael Siams i dir, ond nid yn ddigolled. 'Roedd ei 'sgidia wedi troi yn anffyddlon iddo yn y gors, ac wedi aros yno. Ychydig o "gau" fyddai ar ei 'sgidiau un amser, ac am y rheswm hwnnw 'roedd yn hawdd iddynt lynu yn y siglen.

"Hidia befo," ebe'r gwas bach, gan grynhoi goleuni y lanter yn hollol ddideimlad ar draed amddifaid a diymgeledd yr hwsmon, "mi gei 'sgidia Lewys Dafydd pan gawn ni nhw—biti na fasat ti wedi glanio 'rochor arall, yno ma nhw."

"Paid a smalio, Wil," ebe'r hwsmon, "mae o'n lle rhy ddifrifol. Be' nawn ni, dwad?"

"Hwda'r lantar yma gael i mi dreio," ebe'r gwas bach.

Ond ar ol ei brofiad chwerw ei hun, nid oedd yr hwsmon yn fodlon i Wil gychwyn os na chai glymu rhaff o dan ei geseiliau. Felly fu. Cymerodd Wil y trywel gan Siams, defnyddiodd y ddwy lidiart yn ddeheuig, a llwyddodd i groesi'r siglen. Cafodd hyd i'r llecyn a'r pâr 'sgidiau yn lled ddidrafferth, a chroesodd yn ol yr un fath. Pan laniodd Wil yn ddiogel a'r trysorau yn ei feddiant, buasai'r hwsmon wedi dawnsio gan lawenydd oni bai fod ei sandalau