yn y gors. Cychwynasant i lawr tua Bryn Marian yn ddiymdroi, er fod Wil yn llawn chwilfrydedd am weld cynnwys y pâr 'sgidiau yn gyntaf, ac i'r amcan hwnnw cymhellai Siams i roi 'sgidia'r tyrchwr am ei draed ei hun, ond safodd yr hwsmon yn bendant yn erbyn, a mynnodd gerdded yn nhraed ei 'sannau, gan gario esgid dan bob cesail, a rhoi y llusern a'r ychydig offer oedd ganddynt i ofal y gwas bach. Cyrhaeddasant fuarth Bryn Marian erbyn oddeutu dau o'r gloch y bore. Bwriadai Wil fynd ar ei union i'w wely at y gwas yn llofft yr ystabl, ond protestiai yr hwsmon yn erbyn iddo dorri ar yr orymdaith, a bu raid iddo ei ddilyn ef i'r ty ac i'r llofft at y tyrchwr.
Nid trefnusrwydd yr orymdaith yn gymaint oedd yn pwyso ar feddwl Siams, ond ofn wynebu pen y grisiau heb Wil i ateb cwestiynau Gwen Ifan. Fodd bynnag, llwyddasant i gyrraedd ystafell y tyrchwr yn ddiogel, a chyflwynodd yr hwsmon y pâr 'sgidiau iddo, gan dystio mai'r gwas bach oedd y pry' rhyfedda welodd o 'rioed—'i fod o wedi croesi'r siglan fel croesi llawr y gegin.
"Go lew, fyth o'r fan yma," ebe'r tyrchwr, "'roeddwn i wedi mynd yn reit bryderus. Ie, dyma nhw yr hen 'sgidia."
Ar hynny sylwodd y tyrchwr fod yr hwsmon yn nhraed ei 'sannau, a gofynnodd, "Ble mae dy 'sgidia di, Siams?"
"Mae o wedi'i claddu nhw yn y gors i edrach ddaw arian iddyn' nhw," ebe Wil.