Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/136

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

goleuo'r ganwyll i weld fod y banc yn ddiogel, dechreuodd chwibanu rhyngddo âg ef ei hun. Teimlai ei fod yn ŵr o allu a dylanwad y diwrnod hwnnw, a daeth arno beth awydd dangos ei awdurdod. Clywai yr hwsmon yn chwyrnu yn braf yn y gwely arall; ac er nad oedd ond pedwar o'r gloch, a'r hwsmon yn ei wely ond ers dwyawr, gwaeddodd arno yn awdurdodol i godi.

"Côd dy hun," ebe'r hwsmon, fwy yng nghwsg nag yn effro; a chyn pen dim 'roedd yn chwyrnu drachefn.

"Siams," gwaeddai'r tyrchwr wedyn, "côd, rhag cwilydd; mi fydd yr haul wedi codi o dy flaen di, os na frysi di."

"Mi ddyla 'neud—mi gafodd noswyl o mlaen. i," ebe yntau, a throdd ar yr ochr arall, a'i wyneb oddiwrth y tyrchwr.

"Wyt ti ddim yn cofio be' sy' i fod heddyw? Wyt ti ddim yn cofio be' gest ti yn y siglan neithiwr?" ebe Lewys Dafydd wedyn.

"'Rydw i'n cofio be' golles i yno," ebe yntau—"'y nghwsg a phâr o 'sgidia. Os na fedra i gael fy 'sgidia, mi fedra gael cyntyn, os meindi di dy fusnes."

Gwelodd y tyrchwr na chodai Siams ar arch neb ond Gwen Ifan, a gadawodd iddo gysgu. Treuliodd yntau yr amser i wylio pry' copyn yn esgyn ac yn disgyn yn fusneslyd hyd ei raff o gwmpas y pâr 'sgidia; ond pan ddaeth yn ddigon hyf i ddisgyn arnynt, curodd Gwen Ifan y pared yn ei ymyl, a