diangodd y pry' i'r nenfwd mewn braw. Deffrodd yr hwsmon wrth yr alwad, a chododd yn bur ddiymdroi. Taerai nad oedd wedi ateb y tyrchwr yn gwta, ac erfyniai faddeuant os oedd wedi gwneud.
"Sut medrwn ni 'neud heddyw, dwad?" gofynnai'r tyrchwr iddo pan oedd yn gwisgo am dano; "fedra i ddim mynd allan, a rhaid cael rhywun i gymryd yr arian yma i brynnu. Pwy 'neiff?" "Nai y stiwart," ebe Siams, "'roedd o yn deud 'i fod o'n siwr o fod yn y sêl heddyw."
"Gofyn iddo fo ddwad i'r llofft ata' i, os daw o yna yn gynnar," ebe'r tyrchwr.
Yn fuan ar ol i'r gweision fynd allan o fore—fwyd, daeth Hywel Ellis i'r buarth. Rhoddodd ofal ei ferlyn i Wil, ac aeth ymlaen at y tŷ. Gwahoddodd Nel ef i mewn i'r gegin, lle 'roedd ei mam yn rhoi rhyw gyfarwyddiadau i Siams.
"Wedi dod yma 'rydw i," ebe Hywel, "i ofyn oes yna rywbeth fedra i 'neud i chi heddyw. Mi fydda yn dda iawn gin i fod o ryw help."
"Fedra i ddim gweld fod yn bosib i chi 'neud fawr," ebe Gwen Ifan, "ond diolch i chi am y'ch caredigrwydd yr un fath.'
"Medar, mi fedar," ebe'r hwsmon; a meddai, gan droi at y dyn ifanc, "mae gin Lewys Dafydd waith i chi, Syr—ddowch chi i fyny ato fo?"
Aeth y ddau i fyny i'r llofft. Clywsai Hywel o'r blaen am y tyrchwr, ond nid oedd wedi ei weld.
"Dyma nai y stiwart wedi dwad," ebe Siams, pan aethant i'r ystafell.