Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddo. Hen lanc oedd Tomos Bifan, a chedwid ei dŷ ef, yr un ffordd a'r beudy a'r cwt moch, gan y gwas bach; ac ni chafodd mochyn na buwch le i edliw iddo erioed ei fod yn ffafrio'r tŷ. Byddai braidd bob mochyn a fegid yno, pan welai ddrws y tŷ yn agored, yn troi i mewn i farnu drosto ei hun, a deuai allan bob amser wedi cael tawelwch perffaith i'w feddwl. Safai y tri lle yma oedd dan arolygiaeth Ned yn un rhes ym mreichiau ei gilydd—y tŷ yn y canol; a gofalai'r gwas bach—a chai gefnogaeth ei fistar—na ddelai dim amgen na rhyddid a chydraddoldeb i mewn i'w deyrnas.

Yr oedd gwr y Frwynos wedi cael tipyn o addysg: medrai ddarllen yn rhugl; taflai ei olwg dros y papur newydd bob wythnos; ond yr oedd Tomos Bifan yn gwbl anllythrennog ac anwybodus; ni feddai fawr o ddirnadaeth am ddim tu allan i'w ffarm, ac am grefydd, yr oedd yn estron perffaith iddi. Hamddenol, ystyfnig a phryfoclyd oedd Pitar, a'r llall yn gerlyn rheglyd a hanner barbaraidd.

Yr oedd pob cyfathrach fai'n weddus rhwng dau gymydog wedi peidio rhyngddynt ers llawer blwyddyn bellach, a hynny'n bennaf o achos y clawdd terfyn. Porfa a chnydau Tomos Bifan a dollid fwyaf, o herwydd yr oedd yno dipyn o godiad tir yn ochr y Frwynos, ac yr oedd yn haws i ddefaid Pitar Huws ddisgyn i Fodrach nag oedd i ddefaid Bodrach ddringo i'r Frwynos. Ond er mai Tomos Bifan oedd y dioddefydd pennaf, nid oedd siawns iddo mewn llys gwladol fedru rhwymo defaid Pitar