y gwyddost ti, yr oedd gin i deulu mawr fy hun—saith o blant—a phan aethon ni drosodd i'r America mi fu acw lawer iawn o afiechyd yn y teulu, a 'roeddan ni wedi mynd yn dlawd ddigon. Mi gynygiodd gwr a gwraig, oedd yn byw yn ymyl, gymryd Hywel i'w fagu, ac felly fu. Mi wyddwn y cai o well chware teg gynyn nhw nag oedd yn bosibl iddo gael gin i. 'Doedd o ddim ond chwech oed ar y pryd. Yn fuan iawn wedyn mi symudodd y teulu gannoedd o filltiroedd i'r gorllewin, a weles i mo Hywel wedyn, ond mi glywes o fewn llai na blwyddyn yn ol 'i fod o yn dda iawn 'i le."
'Roedd y dyn ifanc yn clywed yr ymddiddan, a gofynnodd,—
"Bachgen Siams, ond mod i wedi 'i gymryd o i'w fagu pan aeth Siams yn weddw, ac wedi mynd i ffwrdd i'r 'Merica a Hywel hefo fy mhlant fy hun."
"Faint ydi'i oed o 'rwan?" gofynnai'r dyn ifanc.
Mae o newydd adael un ar hugain oed." ebe Siams. "Mi faswn i yn leicio 'i weld o," ebe wedyn. Ac wrth feddwl am ei blentyn 'roedd hiraeth yn cloi o gwmpas calon yr hwsmon. Diraen oedd ei wisg—gwisg hwsmon ar ddiwrnod gwaith ydoedd—ond 'roedd ei lawes lom yn sychu dagrau gonest ddigon. "A mae gia i ofn 'i weld o hefyd, rhag ofn y bydda gyno fo gwilydd o hona i, a fynta wedi cael 'i fagu gan bobol mor daclus;" a rhoddodd Siams ei bwys yn ei ofid ar war y merlyn, a chudd-