Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/141

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iodd ei wyneb yn ei fwng. Disgynnodd Hywel Ellis o'r cyfrwy, dododd ei law ar ysgwydd Siams, ac ebe efe wrtho,—

"Raid i ti ddim ofni, Siams; fydd gin dy fachgen di byth gywilydd o honot. Mi ddoi di o hyd iddo ryw ddiwrnod; mi fydd gin ti dipyn o feddwl ohono fo, ond mi fydd gyno fo lawn mwy o feddwl o honot ti. Sut mae hi arnat ti am faco heddyw? Mi ddo i a pheth i ti o'r llan."

Dychwelodd Siams gyda'i chwaer, ac aeth Hywel i'w daith.

Pan oedd yn tynnu at unarddeg y bore, cyrchai dynion o bob cyfeiriad tua Bryn Marian. 'Roedd yr arwerthwr wedi cyrraedd yno yn gynnar, a daeth gŵr y Swan yno yn lled brydlon hefyd. Gofalodd y tafarnwr am anfon baril o gwrw yno, yn bennaf er mwyn ceisio ennill ei gymdogion i anghofio ei waith yn gyrru ar y weddw.

Pan ddaeth amser dechreu, safodd yr arwerthwr ar ei draed ar gadair gyferbyn â ffenest llofft Lewys Dafydd, a medrai y tyrchwr, ar ol symud y gwely, weld a chlywed popeth.

Pwtyn o ddyn llyfndew oedd gŵr y mwrthwl, llyfn i wyneb, a llithrig ei dafod. Ar ol galw am osteg,—

"Mi ddechreuwn ni," meddai, "ne mi fydd y baril cwrw wedi sychu cyn i ni ddechre." ('Roedd Robin y gyrrwr yn yr act o waghau y jwg).

"Robin." ebe fe, "dos i nol y gwartheg hysbion."