Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/143

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iant dros Bryn Marian heb ond prin gyffwrdd âg amgylchiadau Gwen Ifan. Mae yn wir fod gŵr y Swan wedi mynnu cael pob ceiniog farnai—yn gam neu gymwys—yn ddyledus iddo, ond nid oedd phiol ei gysur er hynny yn llawn. Ar y program oedd ganddo yn ei feddwl ei hun, yr oedd item felly, "Troi Gwen Ifan i'r comin, a ffarmio Bryn Marian fy hunan." Ond nid eiddo gŵr y Swan ei ffordd Aeth adref yn fawr ei siomiant, ac nis gwelwyd ef yn y gegin yr hwyrnos honno—yr oedd yn euog o'r hyn oedd wedi wneud, ac yn llidiog oherwydd yr hyn a fethodd wneud. Ond er na chafodd ddigon o wroldeb i wynebu ei gwsmeriaid yn y gegin, methai beidio eistedd mewn ystafell gerllaw i wrando ei achos yn cael ei drafod gan y rheithwyr oedd wedi ymgynnull o gwmpas ei fwrdd. A da y gwnaeth yn gwrando, a da fuasai iddo ddal ar y gwir lawer oedd yn gymysg â'u baldordd.

Yr un adeg yr oedd yna gwmni wedi ymgynnull yn llofft y tyrchwr i ymgomio mewn llawenydd, ac i ddathlu'r ffaith nad oedd yr arwerthiant ddim wedi peri chwalfa ond ar gynlluniau y tafarnwr. Nid oedd y cynulliad yn un trefnus iawn i'r olwg, ac nid oedd yn hawdd iddo fod, oherwydd yr oedd yr eisteddleoedd yn brin. Lled-orweddai y tyrchwr gan bwyso ar ei benelin, a hawdd canfod mai efe oedd yr arwr. Nid oedd wedi ei ethol yn ffurfiol fel cadeirydd, ond hynny o lywyddu oedd yn angenrheidiol, y tyrchwr oedd yn ei wneud. 'Roedd Hywel Ellis yn bresennol, yn eistedd wrth ochr