gwely y tyrchwr, ar gadair a'i chefn wedi torri. Eisteddai Nel ar y ffenestr, a gorweddai'r hwsmon a'i draed dros yr erchwyn ar draws ei wely ei hun. 'Roedd y gwas bach yn gwneud penyd trwy orwedd ar wastad ei gefn ar gaead bocs dillad yr hwsmon, ei ddwylaw ymhleth yn obennydd dan ei wegil, a'i draed i fyny ar bren traws traed y gwely. Yr oedd pawb arall o'r cwmni, gydag un eithriad, yn orlawn o lawenydd. Yr unig un oedd yn fwy syn a thawedog nag arfer oedd Siams, a diau mai dychweliad ei chwaer o'r America heb ei fachgen oedd yn peri hynny. Hywel Ellis oedd yr unig un o'r cwmni a wyddai amcan beth oedd ar feddwl Siams. Yr oedd efe yn dyst o'r cyfarfyddiad yn y cae dan y tŷ, ac o'r ymddiddan a fu rhyngddynt. Gwyddai ychwaneg na hynny erbyn hyn. 'Roedd yr hyn glywsai yn y 'sgwrs rhwng yr hwsmon a'i chwaer wedi deffro ei chwilfrydedd—a deffrowyd mwy na'i chwilfrydedd yn y fargen. 'Roedd ganddo reswm da dros fynnu clywed rhagor o'r hanes, ac ni chafodd un—rhyw drafferth i gael ymgom gyda chwaer Siams o'r neilltu pan oedd mwrthwl yr arwerthwr yn tynnu sylw pawb arall. Yng nghwrs yr ymddiddan hwnnw deallodd i sicrwydd mai efe ei hun oedd Hywel, mab Siams, a llwyddodd i gael yr hanes a'r profion heb i gymaint a chysgod amheuaeth ddod dros feddwl ei fodryb. Ni ddaethai y fath beth i'w feddwl yntau hyd y bore hwnnw. Gwyddai o'r blaen nad oedd Mr. Ellis y stiwart yn ewythr iddo ond mewn enw, a gwyddai beth o hanes ei blentyndod, ac wrth
Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/144
Gwedd