roddi yr hyn a wyddai ef ymhen yr hyn a adroddai chwaer Siams, nid oedd lle i amheuaeth. Oherwydd y darganfyddiad newydd hwn, yr oedd awyrgylch llofft y tyrchwr yn dygymod yn dda â Hywel y noson honno. Yr oedd wedi dysgu hoffi Siams cyn hyn, ac wedi dysgu hoffi Nel yr un pryd; ond yn awr yr oedd yna deimladau newyddion yn deffro ynddo tuag at yr hwsmon, a chyn iddo sylweddoli yr oedd yna deimladau newyddion wedi deffro yn ei fynwes tuag at y ferch hefyd. Yr oedd yn benderfynol, fodd bynnag, o gadw y peth iddo ei hun am ysbaid o amser, ac ymdaflodd i hwyl a llawenydd yr ymddiddan y noson honno cystal a neb ohonynt.
Treuliwyd amser difyr i adolygu helyntion y dwthwn hwnnw—a diwrnod cyfoethog mewn helyntion yw dydd arwerthiant. Bu Wil yn diddori y gynulleidfa trwy sefyll ar y bocs i werthu gwahanol bethau yn null y gŵr fu wrth y gwaith yn ystod y dydd; ail adroddai jokes methiantus yr arwerthwr, a chymerai arno ddisgwyl am gynygion oddiwrth bâr 'sgidiau y tyrchwr, y rhai oedd wedi eu hanrhydeddu trwy gael eu crogi ar hoelen uwchben y grât. Ar ol cogio gwerthu amryw bethau, sylwodd yr arwerthwr fod Siams braidd yn bendrist, ac ebe fe,—
"'Rydan ni 'rwan yn dwad at y peth ola' o'r stoc, a'r peth gora hefyd—Siams yr hwsmon. Pa gynnyg rowch chi i mi am dano fo? Un bai sy' arno fo—dim ond un—ond mae hwnnw yn un difrifol; 'naiff o ddim cymyd gin y gwas bach. Faint ga' i ddeyd?"