Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/146

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gan nad oedd neb yn cynnyg, trodd yr arwerthwr at Hywel Ellis,—

"Newch chi ddim cynnyg rhywfaint am dano fo, Syr? Mi fasa wrth 'i fodd yn smocio cigars yn y'ch lle chi pan fydd gynoch chi ddim amser. Dowch; faint ydach chi'n barod i gynnyg?"

"Mil o bunna," ebe Hywel, a'i ben i lawr, a thipyn o grac yn ei lais.

"Dim ond mil o bunna wedi 'i cynnyg," ebe Wil," a hynny am un heliodd bedwar cant o bunna mewn dwyawr yn y tywyllwch, a chollodd o ddim ond 'i wynt a phâr o 'sgidia wrth 'neud."

"Mil arall atyn' nhw oherwydd y bai sydd arno fo," ebe Nel.

"Dwy fil,—dim ond dwy fil wedi'i cynnyg," ebe'r arwerthwr.

"Paid, Wil bach," ebe Siams, "'dydw i ddim mewn hwyl heno." A dechreuodd yr hwsmon adrodd hanes ei gyfarfyddiad â'i chwaer, ac ni fedrai gelu ei siomedigaeth am nad oedd ei fachgen gyda hi. 'Roedd yr arwerthwr, erbyn hyn, wedi disgyn oddiar ei lwyfan, a golwg euog ac edifeiriol arno. Symudodd Nel megis heb yn wybod iddi ei hun i eistedd ar y gwely wrth ochr Siams.

"Faint o hanes y bachgen gest ti ganddi hi?" gofynnai y tyrchwr.

"'Chydig iawn," ebe yntau, "ddim ond fod pobol daclus iawn wedi 'i gymyd o i'w fagu, a rheini wedi symud gannoedd o filltiroedd ymhellach. Mae o yn cael pob chware teg, a phob manteision." Ac