Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/147

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

edrychai'r hwsmon ar ei ddiwyg a'i ddwylo geirwon ei hunan, ac ofnai fod y fagwraeth daclus honno y sonnid am dani wedi gosod pellter mwy na môr y Werydd rhyngddo â'i blentyn.

"Pam na sgwenni di ato fo?" gofynnai Nel. "Ynte?" meddai wedyn, gan edrych gyda llygaid llawn o gydymdeimlad i gyfeiriad Hywel Ellis am ategiad i'r hyn awgrymai.

"Fedra i ddim 'sgwennu," ebe'r hwsmon.

"Mi 'neiff Nel sgwennu yn dy le di," ebe Lewys Dafydd.

"O'r gora," ebe'r ferch, ac ymaith a hi i chwilio am yr offer angenrheidiol.

"Tyd a phapur i minna," gwaeddai'r gwas bach; "os wyt ti yn mynd i sgwennu dros Siams, mi sgwenna inna ato fo dros y cyfarfod yma."

Cyn pen ychydig funudau 'roedd y ferch ar ei gliniau wrth y ffenestr, a Wil ar ei liniau wrth y bocs dillad yn ysgrifennu epistolau at Hywel. 'Roedd y gwasanaeth hwn yn dyfnhau ac yn dwyshau hiraeth yr hwsmon, ac yng ngwasgfa ei enaid aeth yntau hefyd ar ei liniau, heb na phin na phapur, fel y bu lawer canwaith cynt, i yrru at ei fachgen trwy route arall. Cododd Wil yn ddigon gonest pan welodd yr hwsmon ar ei liniau, oherwydd nid oedd wedi galw am bapur ond mewn 'smaldod; a chredai nad oedd yn weddus iddo ef chware ysgrifennu ar ei liniau a'r hwsmon ar ei liniau yn ei ymyl mewn cymaint ymdrech meddwl. Daliodd y ferch i ysgrifennu, ac yr oedd yr olwg ar yr hwsmon yn