Prawfddarllenwyd y dudalen hon
gymorth iddi. 'Roedd Gwen Ifan wedi dod i mewn i'r ystafell erbyn hyn, a Lewys Dafydd yn ceisio egluro'r amgylchiadau iddi hi. 'Roedd Hywel Ellis a'i ben rhwng ei ddwylaw, ac yn ymddangos fel dyn wedi mynd i ystum na fedrai ddod ohono. Cododd Nel cyn hir gan ddweyd: "Mi orffenna i y llythyr yma yfory." Cymerodd Hywel Ellis y cyfle y pryd hwnnw i godi i hwylio i fynd adre, a chododd yr hwsmon yr un pryd.
Ar ol diolch i'r tyrchwr am lywyddu, a dweyd "Nos dawch" wrth Nel, trodd Hywel Ellis at yr hwsmon, ac ebe efe wrtho: "Well i ti ddwad i ddanfon tipyn arna' i, Siams."
Dof, syr," ebe yntau, "mi fydd yn dda gin i gael dwad." Ac aeth y ddau allan i'r tywyllwch gyda'i gilydd.