PENNOD IX.
GWYNFYD SIAMS AC ERAILL.

ER cystal fuasai gan Hywel dywallt cyfrinach ei galon i glust Siams pan yn cerdded yn ei fraich dan fantell nos o Fryn Marian, nis gwnaeth. Ac am yr hwsmon, ni wyddai ef ddim o helynt meddwl ei gydymaith; yn unig gwyddai iddo gael tâl da am ei hebrwng ar ffurf ysgydwad llaw serchog a chwarter o faco; ac yr oedd yr arwyddion hynny o garedigrwydd nai y stiwart braidd yn fwy nag a fedrai ei galon ddal, a meddiannu ei hun.
Ar ol dweyd "Nos dawch," a phocedu'r ddeilen, dychwelodd tuag adre gan ddwbl ryfeddu bachgen mor glên oedd Hywel Ellis. Chwedleuai wrtho ei hun am dano; safai ambell waith yn y tywyllwch i ddotio ar yr adgof am ei garedigrwydd, ac wrth ei anwylo felly ehedodd ei feddwl gyda sydynrwydd y fellten at ei fachgen ei hun—y planhigyn bychan blanasai rhagluniaeth unwaith yn ei ardd, ond fod yr un llaw, i ryw bwrpas, wedi ei drawsblannu tros y Werydd i ardd rhywun arall. Meddyliai yn hiraethus mor felus fuasai cael eistedd dan gysgod hwnnw, a'i wylio yn tyfu ac yn ffrwytho, ac yng