i gadw'r heddwch, oherwydd fo'i hun oedd biau'r clawdd, a'i fusnes ef oedd ei gau. Cai ambell ffit weithiau o gau gwyllt a chaeai ddarn, ond darn fyddai. Pan afaelai cynddaredd y cryman a'r dyrnwyl ynddo, gofalai gwr y Frwynos fynd hefo'i was i esgus gweithio heb fod nepell yn rhywle yn y golwg gyferbyn, i ddim ond i'w gythruddo, a llwyddent yn ddifeth. Ymgomient, chwarddent, dywedent ambell frawddeg lawn gwawd yn ddigon uchel i gyrraedd clustiau'r caewr, a chyfeirient ato yn hyglyw fel Mr. Tomos Bifan a Twm Bifis bob yn ail. Dan y saethau hyn, gan y byddai y gelyn yn bellach oddiwrtho nag ergyd cryman, yr unig beth fedrai Tomos Bifan ei wneuthur—a gwnai hynny'n effeithiol—oedd rhegi Pitar Huws nes byddai ei eiriau wrth glecian yn erbyn clogwyn y Frwynos yn deffro "hen ddyn" pob clogwyn arall trwy'r holl gwmwd; ac yna cythrai mewn cynddaredd tuag adref, yn swn adlais aflafar ei lyfon ei hun.
Ar ol blynyddoedd o brofiad fel hyn, daeth Tomos Bifan i sylweddoli fwyfwy ei gyflwr a'i drueni, nid fel pechadur, ond fel cymydog Pitar, ac fel un nad oedd iddo ronyn o gysur yn y ddeddf wladol yn wyneb ei brofedigaethau; a dechreuodd feddwl yn ddifrifol o'r diwedd am gysur crefydd, fel y dehonglid y nwydd hwnnw iddo yn feunyddiol gan y gwas bach. Taerai Ned ei fistar o hyd, a sicrhai iddo pe buasai yn perthyn i'r seiat y buasai rhyw siawns iddo dagu Pitar Huws—yn grefyddol felly: fod cyd—aelodau yn medru llusgo ei gilydd o flaen eu gwell