nghwmni y meddyliau hynny y cyrhaeddodd yn ol i'w ystafell, ac ni chafodd lonydd ganddynt nes i gwsg gerdded yn lladradaidd hyd ei obennydd i gloi pyrth y ddinas, ac i roi heddwch i'r preswylydd,
Aeth Hywel adref, ond nid yn ysgafn galon. Petrusai yn fawr a wnaethai yn iawn wrth beidio datguddio ei hun i Siams, a pharai hynny lawer o boen meddwl iddo; ond credai hefyd nad oedd raid iddo gywilyddio oherwydd yr hyn a'i cymhellai i dewi a son. Gweledigaeth ei ewyrth ac Elin barodd iddo gadw y gyfrinach iddo ei hun. Gwyddai yn dda fod llinynnau tyneraf calon Mr. Ellis, y stiwart, wedi ymgenglu, i fesur mawr, am dano ef. Yr oedd wedi ei noddi a'i feithrin ym mhob modd—gwnaeth ef yn gystal a mab iddo ei hun, ac yr oedd yna lawer o deimladau cyfatebol wedi deffro ynddo yntau dan y driniaeth. Naturiol oedd i Hywel felly ofni i'w ewyrth—pe deuai y wir berthynas i'r amlwg—edrych arno ei hun fel yn colli mab—ei unig fab—yn ei hen ddyddiau; ac yr oedd yn awyddus iawn i osgoi ei arwain i'r brofedigaeth honno.
Yr oedd yna ystyriaeth arall hefyd yn peri iddo fod yn araf i ddatguddio ei gyfrinach. Yr oedd a'i fryd ar ennill calon Elin, a'i hennill yn deg ac anrhydeddus. Ni fynnai fynd i mewn i'r ddinas gaerog honno ond trwy fwlch wedi ei wneud ei hun. Ond oherwydd fod y ferch mor eithriadol hoff o'r hwsmon, ofnai pe deallai hithau ei fod yn fab i Siams, y buasai dôr ei chalon yn agor iddo ar unwaith o