led y pen, ac nid oedd yn barod i fynd i mewn ar delerau felly. O ganlyniad, er fod yna lais cryf o'i fewn yn crefu arno hysbysu ei hun, yr oedd yna leisiau ereill, fwy nag un, yn erfyn arno ymdroi tipyn cyn codi y llen. Oedi wnaeth, ac ni bu edifar ganddo. Tra bu yn oedi, daeth serch â'i llaw dyner ei hun i agor pyrth calon y ferch, a mynnodd angeu, er gwaethaf pob ymdrech o eiddo Hywel, agor pyrth y bedd i'w ewyrth. Yn ystod y cyfnod pan yr oedd y goleuni hwn dan lestr, daliodd Hywel ar bob cyfle i anwylo Siams, ac i roddi ufudd-dod llawn i lais ei natur yn ei holl ymwneud âg ef Bu yn garedig wrtho ym mhob modd, ac eithrio y byddai weithiau yn ei boeni er mwyn y pleser o weld Nel yn ei amddiffyn. Taerai y gwas bach yn fynych, gan herian ar yr hwsmon—yn enwedig os byddai y ferch o fewn clyw—mai yng nghysgod Nel yr oedd o yn cael sylw Hywel; na fuasai Hywel yn gwneud dim hefo fo oni bai fod o wedi ffeindio fod yna un ochr i galon Nel yn feddalach lawer na'r llall, ac mai'r ochr 'gosa at Siams oedd honno. Fe dyfodd y garwriaeth rhwng Hywel ac Elin yn ddistaw a naturiol 'Roedd Gwen Ifan ar y cyntaf dipyn yn bryderus, ond wedi iddi adnabod Hywel yn well, nid oedd ganddi unrhyw bryder wrth ei wylio yn ennill calon y ferch.
Daeth gyrfa bywyd Lewys Dafydd, yr hen dyrchwr, i ben yn sydyn tua'r pryd hwn. Bu farw, nid ym Mryn Marian, ond yn ei fwthyn ei hun. Gwellasai yn weddol oddiwrth effeithiau y ddamwain, a dewisodd fynd i fyw fel cynt i'w gaban yn