Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/152

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y mynydd; ond cyn hir gafaelodd rhyw afiechyd ynddo, a bu farw heb ond ychydig o gystudd. Yn ei ewyllys gadawodd bopeth oedd ganddo i Elin, ac eithrio un canpunt adawodd i Siams fel degwm am weini wrth yr allor bob bore yng nghegin Bryn Marian.

Pan fu farw Mr. Ellis, y stiwart, daeth y fferm a brynasai, ynghyda'r stoc oedd arni, yn eiddo i Hywel, a bu y cymdogion yn ddigon caredig a meddylgar i gyhoeddi gostegion eu priodas yn hollol ddiymdroi, a thybiodd y ddeuddyn na wnaent bellach ddim yn well na chyflawni y broffwydoliaeth oedd yn cerdded trwy'r fro.

Daeth Hywel i Fryn Marian un prynhawn i ddechreu trafod tipyn ar y trefniadau, gydag Elin. Eisteddai y ddau ym mharlwr y ffrynt.

"Dacw chi, Hywel, fel y mae Siams wrthi hi," ebe'r ferch, gan edrych trwy'r ffenestr.

'Roedd yr hwsmon, yr hwn oedd yn gwisgo llaid fel dilledyn, mewn ymdrech galed yn gwthio berfâd o faip i fyny i bwt o allt. Cododd Hywel i'w weld, a daliodd i edrych arno yn hir, ond ni ddywedodd ddim.

"Hwyrach y gwelwch chi o yn ffolineb yna i," ebe hi," ond mae gin i awydd garw cael Siams i'r briodas; ma o yma, fel y gwyddoch chwi, ers blynyddoedd cyn fy ngeni i. Ydach chi yn cofio, Hywel, mai hefo fo y dois i i'ch golwg chi gynta, a mi wnes fy ngora i beidio dwad, ond mi fynnodd Siams gael 'i ffordd, wrth lwc."