Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/154

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hywel yn plygu gan chwerthin wrth wylio yr hwsmon trwy'r ffenestr. Yr oedd wedi gorlwytho y ferfa â maip, a'r rheini fel creaduriaid byw direidas yn neidio i lawr yn gyplau, ac yn ei gwadnu hi i'r goriwaered. Siams ar ol cyrchu'r afradloniaid, yn eistedd ar fraich y ferfa am fygyn.

"Druan o Siams," ebe'r ferch wedyn, yn fawr 'i helbul bob amser, ond mae o wedi bod yn garedig ac anwyl wrtha i ar hyd fy oes. Ydach chi yn fodlon i mi ddwad i'r capel i'ch cyfarfod chi ddiwrnod y briodas yn 'i fraich o?"

"Rydw i yn fwy na bodlon," ebe yntau, "'rydw i yn falch. Mae yn well gin i am y'ch bwriad chi nag y medra i ddeyd wrthoch chi, a nag y medrwch. chitha ddirnad," a chymerodd y ferch i'w freichiau. Ymhen tipyn gofynnodd Hywel yn sydyn,—

"Ga inna neud Wil yn was priodas?" Ac ychwanegodd: "Mi wyddoch mai John Owen oeddwn i wedi fwriadu unwaith, ond mi leiciwn i yn fy nghalon gael Wil i'r briodas hefo Siams."

Ar hynny gwelent y gwas bach trwy'r ffenestr yn cerdded ar flaena 'i draed tu ol i Siams pan oedd yn eistedd ar fraich y ferfa, a chanddo gath yn ei ddwylo. Cyn i Siams sylweddoli, 'roedd y gath yn disgyn yn daclus dros ei ben ar ben y llwyth maip; ac yn ei sbonc oddiyno, cymhellodd pws nifer liosog o'r pengryniaid i 'madael o'u lle, a chychwyn yn fywiog i lawr yr allt. 'Roedd osgo bygythiol ar yr hwsmon, ac osgo anedifeiriol ar y bychan, ond daeth cyfnewidiad buan. Ni fu Wil fawr o dro yn hel y