odd o yn 'i fywyd, a phwy fasa'n meddwl—Hywel yn medru actio mor dda. Cafodd yr hwsmon fraw ar y cyntaf oherwydd rhywbeth oedd yn llais ac yng ngwasgiad llaw Hywel; ond wrth weld dir-dyniadau wyneb gwamal y gwas bach, tybiodd yntau ei fod yn gweld y joke, a dechreuodd chwerthin, ac ymunodd y rhan fwyaf o'r cwmni.
'Rydw i yn gweld," ebe Hywel, "fod pawb o honoch chi, a Wil yn enwedig, yn meddwl mai cellwair 'rydw i, ond y gwir ydi o, dyma nhad—Hywel 'i fachgen o ydw i."
Deallodd yr holl gwmni yn awr oddiwrth ddi-frifwch Hywel mai nid cellwair yr oedd. Sobrodd Wil gyda sydynrwydd ergyd, dechreuodd ei lygad lenwi, cododd, aeth allan, ac yn syth i'r ystabl; eisteddodd ar ymyl y preseb, a wylodd ei lawenydd i fwng y ferlen. Bu'r gwirionedd yn hwy yn gwawrio ar feddwl Siams ei hun nag ar feddwl neb arall o'r cwmni. Daeth math o hurtrwydd drosto am ennyd—edrychai yn syn a phell ar Hywel, yna gollyngodd ei ben ar y bwrdd, ond daliodd ei afael yn dyn yn llaw ei fachgen.
Y briodasferch, yn ddrylliog gan lawenydd, yn hawlio cusan gan fab Siams, fel y galwai Hywel, ac yn prysuro i'r ochr arall i hawlio yr un peth gan ei thad, ac i'w wahodd i fyw atynt yn eu cartref newydd.