yn hollol ddidrafferth ac yn gwbl ddigost. Daliodd Tomos Bifan ar y cyngor oherwydd y gobaith cysurus oedd ynddo, a phenderfynodd fynd i'r seiat. Yr oedd gwr y Frwynos yn aelod yn eglwys Soar, a thuag yno, ryw nos Fercher, y cyfeiriodd Tomos Bifan ei gamre. Sylwodd Pitar, wrth fynd tua'r capel, fod Tomos Bifan yn cerdded rhyw gan lath o'i flaen, ond ni freuddwydiodd mai yno hefyd yr âi ei gymydog; a phan drodd Tomos at y capel ac yr aeth i mewn trwy'r drws, cafodd gwr y Frwynos fraw, a thybiodd y cai ffit, ond yn rhagluniaethol trodd yn ffit o chwerthin aflywodraethus, a bu raid iddo ymdroi yn hir tu allan i fedru difrifoli digon i fynd i mewn ar ei ol.
Ar ol mynd trwy'r gwasanaeth dechreuol, cododd Huw Jones ar ei draed, a dywedodd—
"Mae'n dda gynon ni i gyd weld Tomos Bifan wedi troi i mewn. Mi aiff William Dafis i gael gair hefo fo." Aeth William Dafis i'r llawr ato, ac ar ol rhyw air bach o gyfarchiad cynnes dywedodd:—
"'Rwyt ti'n gwybod be wyt ti'n neud, Tomos, on'd wyt ti?"
O ydw," ebe Tomos.
"I'r seiat 'rwyt ti wedi dwad, cofia; a mi fydd raid iti altro llawar os wyt ti am aros yma. Rhyw ffarm ydi'r seiat, wyddost, wedi'i chau i fewn oddiwrth y byd, a mi fydd raid i titha forol am neud dy ran i gadw'r clawdd terfyn yn ddifwlch."
(Ffigiwr y clawdd terfyn yn goglais Pitar Huws, ac yn codi ffit o besychu caled arno).