Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wyddwn i ddim fod yma Bitar am y clawdd â'r seiat ne faswn i fawr o ddwad yma. Nos dawch i gyd," a chychwynnodd allan. Y foment honno y sylweddolodd William Dafis fod ei ffigiwr yn un anffodus, a meddai: "Aros funud, Tomos, 'rwyt ti wedi nghamddallt i." Safodd Tomos wrth ddrws y sêt a'i het yn ei law. "Oeddat ti wedi meddwl cynnyg dy hun yn aelod hefo ni wrth ddwad yma heno?"

Oeddwn," ebe yntau.

"Be oedd yn dy gymell di i ddwad aton ni ?" gofynnai William Dafis.

"Pitar y Frwynos," gan nodio i gyfeiriad y gwr hwnnw, "sy. . . . ."

"O da iawn," ebe'r hen frawd," mae'n dda gin i glywed i fod o'n gneud rhyw les."

"Lles bybe?" ebe Tomos, "rhoswch i mi orffan. Pitar y Frwynos sy'n poeni mywyd i, a dallt 'roeddwn i daswn inna hefyd yn aelod, y basach chi yn i alw fo i gyfri, ac yn i gosbi o."

"O, felly," ebe William Dafis, "pechoda Pitar sy wedi dy hel di i fewn yma, nid dy bechoda dy hun."

"Ia," ebe Tomos.

"Wel," ebe'r hen flaenor, "mae gin i ofn na fedrwn ni mo dy dderbyn di ar y telera yna. Mae'n ddrwg iawn gynon ni os ydi Pitar yn dy boeni di, ond raid iti gael dy boeni gin rwbath heblaw Pitar cyn y medrwn ni dy dderbyn di."

Cyn i William Dafis orffen dywedyd hyn, yr oedd Tomos Bifan hanner y ffordd at y drws, yn