mynd gan ysgwyd ei ben fel dyn wedi cael cam, ac yn dal ei ddeheulaw i fyny—a'i het ynddi—gydag osgo oedd yn awgrymu ei fod yn benderfynol o achub ei gam rywbryd, ac wrth basio gwegil Pitar Huws, daliodd ar y cyfle i roi clustan egniol iddo hefo'i het, rhag iddo, ac yntau wedi disgwyl cymaint o gysur yn y seiat, orfod mynd allan oddiyno heb ddim.
Ni fu methiant Tomos Bifan fel ymgeisydd am aelodaeth eglwysig yn ddim help i iachau y teimladau rhyngddo ef a'i gymydog—ond fel arall. Bu mwy o ymeirio rhyngddynt dros y clawdd terfyn. na chynt, a chai Tomos wahoddiad beunydd gan ŵr y Frwynos i frysio i'r seiat.
Gyda threigliad y blynyddoedd, fodd bynnag, a'r rhyfel cartrefol yma o hyd yn parhau, gwnaeth pob un o'r ddau elyn newydd iddo ei hun, a'r un gelyn oedd i'r ddau y darfodedigaeth. Tomos Bifan glafychodd gyntaf, a gwasgwyd ef i'r gongl, ac yn fuan iawn aeth yn rhy wan i felldithio Pitar Huws heb gael rhoi pwys ei benelin ar y pentan. Cyn hir clwyfwyd Pitar Huws, a chlwyfwyd ef yn drymach; cyflymodd ef heibio i'r gongl heb ymdroi fawr ynddi, ac i'w wely. Tymor bwrw ŵyn ydoedd pan oddiweddodd nychdod y ddau, a gadewid y mamogiaid a'r ŵyn bach mewn canlyniad i ymdaro goreu y medrent. Bu farw cryn nifer ohonynt yn ddefaid ac ŵyn—o eisieu cymwynas ac ymgeledd; ond ffynnodd y lliaws yn rhyfedd er gwaethaf pob diffyg gofal. Cafodd cyplau y