Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddau le lonydd yn awr i ymgymysgu. Gwnaethpwyd y clawdd terfyn yn sathrfa, a throdd yr ŵyn ef yn gymnasium. Prancient yn ddiorffwys ar hyd-ddo, neidient a thwlcient, a dywedent yn groew iawn fod bywyd ar y clawdd terfyn, yn llygad haul, yn felys ac yn werth i oen bach ei fyw.

Ond un diwrnod, pan oedd dau o honynt—oen i Fodrach ac oen i'r Frwynos—yn cyd-chware ar y clawdd, ac yn ymlid eu gilydd i fyny ac i lawr mewn afiaith diniwed, rhuthrasant yn sydyn, ochr yn ochr, trwy fwlch bychan yn y mieri, ac i rwyd fawr a adawsid ar osod yno, mewn angof heb ei chodi, gan rywrai fu'n hela yn y nos. Clodd y rhwyd yn dyn am danynt a daeth eu difyrrwch i ben. Nid oedd yno neb i estyn ymwared iddynt. Yr oedd y ddwy fam yno yn eu gwylio mewn penbleth a phryder; dodent eu trwynau, dan frefu, bob un ar ei heilun ei hun; rhedent i ben y clawdd, brefent yno; i lawr yn ol—brefent drachefn, i ddeisyf help o rywle, ond ni ddaeth neb.

Yn y rhwyd y buont, yn ymladd am ryddid tra daliodd eu nerth, ac yna yn dihoeni. Ni fedrent sugno, a phallodd eu nerth yn fuan; a'r diwedd fu i'r ddau drengi yn y rhwyd. Yr oeddynt wedi hen oeri pan ddaeth y dyn cyntaf heibio—ac ynfytyn oedd hwnnw. 'Roedd gan Wil wirion, fel y gelwid ef, drwydded i gerdded y ffordd y mynnai; croesai gaeau a chloddiau pawb yn ddiwarafun. Os ataliodd ei Grëwr oddiwrtho beth daioni uchelbris, gofalodd am roi iddo yn gyfnewid ryddid aderyn y mynydd yn