enedigaeth fraint. Ac efe, wrth grwydro, ddaeth o hyd i'r ŵyn yng nghae y Frwynos. Ar ol cosi ei ben am dipyn uwch eu pennau yn y myfyrdod diy madferth a'i nodweddai ef, gwnaeth goflaid o honynt fel yr oeddynt yn y rhwyd, ac aeth a hwynt i'r Frwynos. Curodd y drws, a daeth llais o'r siamber yn ei wahodd, pwy bynnag oedd, ymlaen yno, ac aeth Wil a'i faich i mewn. Yr oedd Pitar Huws ar ei eistedd yn y gwely. Dododd Wil ei faich i lawr ar lawr y siamber, ac edrychodd ar yr ŵyn ac ar Pitar bob yn ail.
"Lle cest ti rheina?" gofynnai'r claf.
"Wyn," ebe Wil, fel pe buasai arno ofn i syched sydyn Pitar Huws am wybodaeth beri iddo anghofio'r ffaith sylfaenol honno. "Wyn," ebe wedyn.
"Ia ddyliwn, ond lle cest ti nhw?" gofynnai Pitar Huws drachefn.
"Cae," ebe Wil.
Ar hynny clywid swn y gwas yn annos y ci i ddefaid yn y buarth; ac yna daeth i mewn i'r tŷ ac i'r siamber; ac ni chymerodd iddo ef ond ychydig amser i ddehongli'r weledigaeth.
"Rhwyd wedi'i gadael ar y clawdd terfyn heb ei chodi, a nhwtha wedi mynd iddi hi wrth chwara," meddai; "'roedd y ddwy fam—un o ddefaid Bodrach ac un o'n defaid ninna—yn y buarth rwan wedi dwad ar ol Wil."
"Od iawn," ebe Pitar Huws, a syllodd yn hir arnynt; yna gorweddodd yn ol yn y gwely, a'i law