Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar ei dalcen. Cododd ar ei eistedd drachefn i edrych eilwaith arnynt, ac ymhen ennyd cododd ei lygaid at yr ynfytyn, a dywedodd:

Wil bach, rydw i yn dechra meddwl dy fod titha ym mysg y prophwydi heddyw."

"Wyn," ebe Wil eto, gan bwyntio atynt a'i fys, fel pe i alw Pitar Huws yn ol at y pwnc.

"Ia, ŵyn," ebe'r claf, "oen i Twm Bifan ac oen i minna, wedi marw mewn rhwyd ar y clawdd terfyn;" a thrwy dipyn o anhawster yr ychwanegodd, -'roedd ei wefusau yn awr yn dechreu mynd yn anufudd ac afreolus—"Dameg ydi hi, Wil: Twm Bifan a minna sy yn y rhwyd yna," a gorweddodd yn ol yn y gwely drachefn, a thorrodd i wylo yn hidl.

Pan ddaeth dipyn ato ei hun, dywedodd wrth Wil: "Rhaid iti fynd a nhw i Fodrach i'w dangos i Twm Bifan. Well iti fynd hefo fo, Bob," meddai wrth y gwas. Gwnaeth hwnnw ysgwydd i ymesgusodi oherwydd gwyddai trwy brofiad nad oedd Twm Bifan ddim yn debyg o dorri allan i orfoleddu wrth ei weled ef, ond mynd fu raid.

"A Bob," ebe Pitar Huws pan oeddynt ar gychwyn, "dwad wrth Tomos Bifan mod i'n gofyn iddo fo fadda i mi."

Cychwynnodd y ddau: Wil yn codi celanedd yr ŵyn ar ei ysgwydd yn dyner, fel pe buasent yn cysgu ac yntau yn ofni eu deffro. Gadawodd Bob iddo gerdded yn gyntaf, a dilynai yntau o'r tu ol—nid am ei fod yn rhy uchelfryd i gerdded yn ochr