Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr ynfytyn, ond am ei fod yn ystyried fod yna ormod o gysegredigrwydd yng nghenhadaeth Wil, yn gystal ag yn ei groen ei hun-iddo ef beryglu pob un o'r ddau trwy ruthro yn anystyriol i wyddfod Twm Bifan. Penderfynodd Bob ei anfon i'w bresenoldeb dan ei faich wrtho'i hun, gan gredu y byddai iddo, ar ol mynd trwy'r gwasanaeth dechreuol, alw arno yntau i gymryd rhan. Felly fu, ac aeth Wil i mewn heb gymaint a churo yn y drws. Yr oedd Tomos Bifan yn y gongl wrth y tân, heb neb yn y tŷ ond efe. 'Roedd y gegin yn llwyd-dywyll, ac yntau yn llonydd; ac onibae iddo besychu gallesid tybio mai un o'r cynddiluwiaid ydoedd, wedi boddi yn daclus yn ei gadair; ond yr oedd trem gyffredinol ar yr ystafell yn ddigon i argyhoeddi dyn na bu erioed gymaint a hynny o ddŵr yn y tŷ, heblaw nad oedd wyneb a dillad y trigiennydd yn debyg i wyneb a dillad dyn wedi trengi trwy gael ei or-olchi.

Dododd Wil ei faich i lawr yma yr un fath ag yn y Frwynos, gyda chymaint seremoni a phe buasai yn gosod carreg sylfaen. Trodd Tomos Bifan, ac edrychodd yn hurt ar yr ŵyn yn y rhwyd, ac yna ar Wil. Gwelsai yr ynfytyn ganwaith; ond heddyw ni fedrai ymysgwyd oddiwrth ryw ofn mai drychiolaeth ydoedd ef a'i faich. Safodd Wil fel delw o'i flaen, cyn llonydded ar y funud a'r ŵyn; eisteddodd yntau fel delw, ond fod ei lygaid—a'i lygaid yn unig yn symud o Wil i'r ŵyn ac o'r ŵyn i Wil. Pan sylweddolodd Wil fod 'sbio a dywedyd dim yn waith a allsai gymryd amser go faith i'w