orffen yn iawn, symudodd yr ŵyn fwy i'r aelwyd, ac aeth ac eisteddodd yn y gadair yr ochr arall i'r tân gyferbyn a Tomos Bifan. Ar ol ei osod ei hun i lawr yno yn gyfforddus—ac wrth wneuthur hynny bradychodd dipyn o ddiffyg parch i'r domen ludw oedd yno o'i flaen—nid fod ganddi hawl ar y gadair, ond hi oedd y ground-landlord yn y parthau hynny.
"Wyn," ebe Wil, gan bwyntio a'i fys i'r cyfeiriad. "Myn,"—ond methodd Twm Bifan orffen ei frawddeg, er ei bod yn frawddeg a fedrai'n dda. Syrthiodd yn ol yn ei gadair mewn rhyw hanner llewyg. Ar hynny, daeth Bob, gwas y Frwynos, i mewn.
"Sut yr ydach chi, Tomos Bifan?" ebe Bob. Dadebrodd dipyn wrth glywed llais arall, a throdd i'r cyfeiriad.
"Fu rioed well gin i weld rhywun hanner yn i sens yn dwad i mewn," meddai. "Rydw i bron a marw; hel y penbwl yma a'i bac allan."
"Wyddoch chi hanes yr ŵyn yma, Tomos Bifan?" ebe Bob.
"Na wn i, a 'does gin i ddim isio gwbod," eb yntau.
"O ma na hanes dyddorol iawn i'r rhein," ebe Bob, ac yna aeth ymlaen i'w adrodd, a chafodd wrandawiad astud heb fawr o drafferth. Aeth ymlaen i adrodd eu hanes yn siamber y Frwynos, dehongliad ac edifeirwch Pitar Huws, ac arweiniodd bob yn dipyn at gais ei fistar am faddeuant. Yn ystod yr araith hon gan was y Frwynos apwyntiodd