Wil ei hun i'r swydd o borthi'r gwasanaeth, a chyflawnodd y gwaith mewn dull priodol iddo'i hun. Pigai ryw air o bob brawddeg a lefarai Bob, a dywedai ef ar ei ol. Soniai gwas y Frwynos am yr ŵyn, "ŵyn," ebe Wil; soniai am y cae lle cafwyd hwynt, cae," ebe Wil; am y rhwyd oedd am danynt, "rhwyd," ebe Wil; ac yn gyffelyb trwy restr faith o eiriau; a phan soniodd Bob am faddeu, 'madda," ebe Wil. Ond, yn rhyfedd, er i Bob siarad ymlaen, glynodd Wil wirion yn y gair madda" fel porthiant drwy weddill y gwasanaeth. Beth bynnag fyddai'r frawddeg, "madda" a geid gan Wil. Yr oedd fel pe buasai'r nefoedd wedi cyffwrdd yn ddistaw a rhywbeth tebyg i repeating stop yn enaid yr ynfytyn; ac hyd yn oed ar ol i Bob orffen ei adroddiad, yr oedd Wil fel pe wedi ei osod, a'i draed ar y domen lludw, i borthi myfyrdodau edifeiriol Tomos Bifan-madda . . . . madda.
Cododd Bob i ymadael, a chododd Wil hefyd i ymadael.. Cymerodd ei faich ar ei ysgwydd, ac aeth y ddau allan mewn distawrwydd, a chaewyd y drws.
Eisteddai Tomos Bifan unwaith eto ar ei ben ei hun yng nghegin Bodrach. Edrychai i'r tân yn syn. Methai gael yr ŵyn o'i feddwl, ac nid oedd siawns iddo ollwng efengyl ddeusill Wil wirion dros gôf, oblegid yr oedd yr hen gloc mawr, yn y distawrwydd ar ol i'r lleill fynd allan, wedi ffansïo y medrai yntau bregethu cystal a Wil ond iddo gael benthyg ei bregeth, a dyna lle 'roedd yn annog,