Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

annog, "ma-dda," ma-dda," a hynny mor ddi-daw ac undonog fel y teimlodd Tomos o'r diwedd fod yr efengylydd hwn yn mynd ar ei nerves; a chan nad oedd wedi cael cyfle—oherwydd ei ddieithrwch i lan a chapel—i feithrin amynedd diderfyn y gwrandawr cyson, ni phetrusodd godi i agor drws y pulpud a rhoi ei fys ar dafod y pregethwr—fel y gwnaeth yr apostol ar dafod y gwragedd yn yr eglwysi. Ond nid dibrisdod o'r genadwri a barodd iddo wneuthur hynny. Pa raid celu'r gwir? 'Roedd calon Tomos Bifan yn dechreu toddi'n llyn, ac yr oedd rhediad y llyn dros y clawdd terfyn tua'r Frwynos. Daeth arno frys yn awr am gael gwella digon i fynd i edrych am Pitar Huws.

Cafodd ei ddymuniad; cryfhaodd ddigon i fynd ym mraich Ned i'r Frwynos unwaith—i ffarwelio hefo'i gymydog cyn iddo gychwyn. Llawer gwaith y dechreuodd y gwas bach, yn ddigon llygat- sych, adrodd hanes y ffarwel hwnnw wrth ei gyfoedion, ond deuai yr adroddiad i ben sydyn bob amser yn rhywle yn y canol—i'w barhau yn y nesaf, wedi i'r gawod fynd drosodd. Pan ddeuai Ned at hanes ei fistar yn mynd ar ei liniau wrth erchwyn gwely Pitar Huws, a'i law yn ei law, doi niwl a nos ar ei stori. Yr oedd yn fedrus mewn llawer o bethau, ac yn dafodrydd ddigon, ond fel hanesydd y cymod hwn, er ei fod yr unig awdurdod arno, ni cheid ganddo ond y rhagarweiniad.

Prysurodd Pitar Huws ymaith, a daeth y diwedd yn fuan. Claddwyd ef ym mynwent y plwy. Ymhen