tair wythnos bu farw Tomos Bifan, a thorrwyd ei fedd yn ochr bedd ei gymydog. Diwrnod ei angladd, pan ddodid yr elor, a'r arch arno, i lawr gerllaw y bedd agored, syrthiodd ochr y bedd—yr ochr agosaf at fedd Pitar Huws—i mewn, gan ddarn lenwi'r bedd newydd.
"Myn gafr," ebe Ned, yr hwn oedd yn sefyll yn ddefosiynol yn ymyl fel un o'r prif alarwyr, a'i het yn ei law, "Ma helynt y clawdd terfyn yn dechra yn y fan yma eto," ac edrychai yn anghrediniol ar dawelwch ei hen fistar dan y cwrlid du ar yr elor gerllaw. Ond yr oedd rhyfel y clawdd terfyn drosodd, a throsodd cyn i'r ddau noswylio.
Pan ddaeth yr amser i feddwl am feini coffa iddynt, meddyliodd perthynasau'r ddau y carent goffa yr un pryd am y cymod a wnaethpwyd rhyngddynt ar derfyn eu hoes, ac i'r amcan hwnnw penderfynwyd cael un beddfaen da ar ysgwâr y ddau fedd. Cafwyd un felly, ac wedi eu torri arno yr oedd y geiriau canlynol:—
Er cof am
Pitar Huws y Frwynos,
yr hwn a fu farw Mai 2, 1856, yn 63 mlwydd oed.
Hefyd
Tomos Bifan, Bodrach, fu farw Mai 24, 1856, yn 65 mlwydd oed.
Dau gymydog gymodwyd—yn y glyn.
Ar glawdd terfyn bywyd,
Trwy ddau oen prydferth aberthwyd
Er mwyn yr hedd yn rhwymyn rhwyd.