Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Morus Huws, y Felin

S

SAFAI'R felin yng nghesail un o'r llu ceunentydd sydd megis eddi o gylch godre Mynydd Hiraethog. Hen adail batriarchaidd yr olwg ydoedd hi, a'i dorau llwydwyn, a'i ffen- estri rhidyllog yn awgrymu dioddefgarwch ac ymostyngiad. Yr oedd gwynt a glaw, rhewynt a thês, wedi profi min eu harfau ar ei thô a'i muriau gyda chysondeb difwlch am dros bedwar ugain mlynedd, fel y profai cenhedlaeth ar ol cenhedlaeth o blant ysgol fin eu cyllill ar risgl onnen yn ymyl. Bu yn felin newydd unwaith, ac edrychai'r seiri gydag edmygedd syml ar eu campwaith gorffenedig; ond yr oedd hynny flynyddoedd maith yn ol. Erbyn hyn gorweddai'r seiri fu yn cloi ei chonglau ac yn lefelu ei thrawstiau dan chwibannu yn ysgafnfron gynt, yn dawel a digyffro ym mhriddellau'r dyffryn gerllaw. Ond safai'r felin er noswylio o'r seiri; eto yr oedd rhychau a chreithiau drycinoedd canrif ar ei hwyneb hithau yn argoeli ymddatodiad graddol. Ond er