fod y felin weithian yn dwyn nodau henaint ac adfeiliad, arosai peth o osodiad ysgoewedd a ffroen-uchel y felin yn newydd o hyd. Pan y gosodid ei sylfaen, mynnodd droi ei gwegil yn 'sgornllyd ar y gloddfa lle y codid y cerryg. Trodd ei hwyneb tua Moelunben, gan anwybyddu y graig yr hannodd o honi. Yr oedd megis wedi gwneud diofryd na edrychai byth ar y creigdwll hwnnw, a chadwodd ei gwegil arno drwy ystod y pedwar ugain mlynedd, heb gyfnewidiad na chysgod troedigaeth. Hon oedd melin Morus Huws.
Morus y felin y gelwid Morus Huws gan breswylwyr y fro, a Morus y felin oedd. Y felin oedd ei fyd. Tu mewn i'w muriau hi y treuliai ei holl amser, yn feudwy difyfyrdod, ond hynny o fyfyrdod oedd yn ofynnol i newid y sachau ac i bigo'r meini. Yr oedd mor amddifad o grefydd a'r llygod oedd yn llercian ac yn gwylio eu cyfle yn y parwydydd. Nid oedd nac yn prisio nac yn parchu unrhyw allu uwch na llyn yr argae, yr hwn oedd yn mud-gronni yn adnewyddol erbyn bob bore i fyny'r ceunant. Hwnnw oedd y gallu goruwchnaturiol oedd yn troi cysawd olwynol ei ffurfafen ef, ac ni thalai warogaeth i neb na dim arall. Safai capel o fewn llai na hanner canllath i'r felin, ond ni welid Morus Huws yno hyd yn oed ar ddydd diolchgarwch. A mwy na hynny, ni chynhelid seiat na chyfarfod gweddi yn y capel noson waith na fyddai swn olwynion y felin—"isel swn y malu "—yn cyrraedd hyd at yr allor, ac yn ffurfio islais dwfn i fawl a gweddi'r