Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

saint. Ni pharai hynny, fodd bynnag unrhyw aflonyddwch i'r ddiadell. Yr oeddynt wedi dysgu dygymod a rhwnc yr olwyn, a dadwrdd y dŵr wrth ddisgyn i'r llwyau; a phan sylwid arno yn y cysegr, ystyrid ef nid yn gymaint fel cennad Satan i gernodio'r frawdoliaeth, ond fel achwyniad cyhoeddus y felin yn erbyn ei pherchennog am ei absenoldeb, a'i ddieithrwch i'r lle sanctaidd hwnnw. Cai'r felin seibiant ar y Sul; ond codai hynny yn fwy o ofal Morus Huws am ei gwsmeriaeth nag o'i barch i gysegredigrwydd y dydd; oherwydd tra byddai y saint yn ymdrwsio oddiallan â gweddusrwydd, ac oddimewn â gostyngeiddrwydd, ac yn ymgynnull yn finteioedd i'r cysegr, byddai'r melinydd yn yr ystafell nesaf i mewn yn dyfal drwsio sachau.

Ni feddai Morus Huws dŷ ar wahan i'r felin. Yr oedd hynny o glydwch cartref y gwyddai am dano wedi ei grynhoi i gwt cyfyng yng nghefn y felin. Hwn oedd yn cyflenwi ei holl raid yn y ffordd o annedd. Yma yr oedd y tân, y ford, a'r gwely, ynghyd â stol drithroed a mainc—dyna holl ddodrefn y gell. Ac yr oedd dodrefn ystafelloedd ei enaid yn cyfateb. O fewn chwarter milltir i'r felin yr oedd Plas Garthunos, lle trigai Cecil Watkin, Ysw.—boneddwr a thir-feddiannwr cyfoethog. Morus Huws ac yntau oedd yn ffurfio dau begwn gwareiddiad yn y cwmwd. Yr oedd gan y boneddwr blas ardderchog, a chai pob ci oedd ganddo well caban na'r melinydd. Heliwr cadarn ydoedd, a mynych yr ymlidiai 'sgyfarnog neu lwynog o ddol