Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i waun, ac o waun i ffridd er mawr ddifyrrwch iddo ei hun ac i'w gymdeithion. Ond am Morus Huws, yr oedd wedi cau ei hun i fyny mewn cell ddigysur; a pha faint bynnag o'r elfen helwriaethol allasai fod yn ei waed, yr unig hwi a thalihô oedd yn bosibl iddo ef, oedd o'i wely yn y plygain, pan yn 'nelu un o'i glocsia at ambell lygoden fawr fyddai yn ddigon difalch i droi i mewn i gell y meudwy.

Gerllaw y felin tyfai poplysen feindal, union-syth, yn ei ffurf a'i phopeth mor wahanol i breswylydd yr adail odditani. 'Roedd y goeden yn siaradus—ei manddail yn fil o dafodau prysur yn sisial ar ogleisiad lleiaf yr awel, a'i chorff, pan godai'r gwynt, yn siglo gan lawenydd a gorfoledd. Ond trigai Morus Huws yn feudwyaidd a thawedog, a chuwch gwastadol ar ei ael. Ymgladdai o'r golwg yn y felin ac ynddo ei hun; ond sefyll uwch ei ben yn geryddol a wnai'r boplysen ddydd a nos. Safai'r nos yn glochdy lle gallai dyllhuan ddod ar ddamwain i ganu cnul ei thŵ-hŵ uwchben yr adail halogedig. A'r dydd safai yn fys deial, a'i chysgod rhwng bore a hwyr, yn araf gerdded dros y lawnt, dros y felin a'i hanwiredd, ac yn olaf, dros y llyn,—fel i ymlanhau oddiwrth halogrwydd yr adail groesodd rhwng un a thri brydnawn.

Yr unig ddolen gydiol rhwng Morus Huws a'r byd oddiallan oedd Robin Ifan. Robin y gyrrwr y gelwid ef yn gyffredin, oherwydd efe oedd swyddog gorfodol gwedd fulod y felin, yr hon oedd yn trafnidio gydag anwadalwch dianwadal rhwng y felin a