Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwahanol gyrion yr ardal. Yr oedd pob neges a marsiandiaeth yn cael ei chario ymlaen trwy Robin. Teimlai yntau bwysigrwydd a chyfrifoldeb ei safle fel cennad a chariwr awdurdodedig rhwng Morus Huws a'r holl fyd adnabyddus—iddo ef; ond ystyriai yr un pryd nad oedd y mulod yn ysgrubliaid boddhaol a theilwng o'i lysgenhadaeth, a thybir iddo eu galw yn Jupiter a Mercurius, nid oddiar unrhyw amcanion eilun-addolgar, ond er mwyn urddasoli'r drafnidiaeth. Oherwydd ei gysylltiad agos a'r melinydd, teimlid graddau o'r un diddordeb yn Robin bob dydd o'r flwyddyn ag a deimlir mewn cenhadwr pan ddaw adref ar ol saith mlynedd o wasanaeth. Ystyrid ef, yr un fath a chenhadwr, yng nghyfrinach un o dywyll leoedd y ddaear, ac yr oedd enwau paganaidd y mulod yn ffafrio'r golygiad hwn. Disgwylid ymhob tyddyn lle'r elai am ryw damaid ganddo ynghylch y melinydd, a sicrhai hynny damaid iddo yntau gan wraig dda y tŷ. Byddai galwad cyson am dano hefyd yn yr efail gyda'r nos i roddi portread o Morus, yr hyn a wnai gyda medrusrwydd dihafal. 'Roedd rhywbeth neilltuol ym mhortread Robin yn yr efail. Ni chyfeiriai byth at y melinydd dan ei enw—Morus Huws—ond soniai am dano bob amser fel y "sgweiar." Ni soniai un amser ychwaith am lygod mawr y felin, ond cyfeiriai yn fynych at y "giam acw." A phan ddigwyddai sôn am y lodge, gwyddai y cyfarwydd ymhlith ei wrandawyr mai yr hyn a olygai oedd cwt mochyn ar fin y ffordd yn ymyl y felin. Cyf-