Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yngid y dull bonheddig hwn o siarad i'r efail; ac un fantais oddiwrtho oedd nad oedd presenoldeb dieithriaid yn yr efail yn un rhwystr i Robin fynd ymlaen gyda'i berfformiad, gan na ddeallent y termau. Ond ar adegau eraill, pan yn nhyddynnod yr ardal, byddai Robin yn ymostwng i siarad am y melinydd mewn rhyddiaith ddiledryw. Gyda Sian Ellis, er enghraifft, yr hon oedd yn cadw cynulleidfa luosog o ieir, ac felly yn gwsmer cyson i'r felin, byddai Robin yn y rhagolwg am gwpanaid yn ymollwng yn ddilol i fodloni cywreinrwydd Sian berthynas i Morus Huws. Eisteddai Robin dan y fantell fawr hen ffasiwn yn mwynhau mygyn ac yn diddori Sian tra darparai hithau gwpanaid. Gadewid Jupiter a Mercurius i sefyll yn y ffordd, mewn dwys fyfyrdod ar bynnau a phastynnau yn gyffredinol, a symbylau Robin yn neilltuol. Hen wreigan agos i'w lle oedd Sian Ellis, ac er y byddai yn mwynhau gwrando Robin yn portreadu Morus Huws, byddai bob amser, yn ddiarwybod iddi ei hun megis, yn dangos anesmwythder meddwl oherwydd pellter Morus oddiwrth grefydd a'i phethau. Yng nghwrs y blynyddoedd y bu Robin yn mynd i Roslan, nid unwaith na dwywaith y gofynnodd Sian Ellis iddo, gydag acen brofai gywirdeb ei chalon, a fyddai Morus Huws ddim yn sôn rywbeth weithiau am grefydd. Atebai yntau bob amser mewn dull oedd yn dangos mor afreidiol ac afresymol yr ystyriai'r fath gwestiwn. Wfftiai'r syniad, a gwamalai nid wrth fesur wrth sôn am y peth. "Aros