Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

di, Robin," ebe Sian Ellis untro, "paid ti a chellwair ar gorn pellter Morus oddiwrth grefydd; mi wn i fod o'n bell, ond mae i bellach o wedi dychwelyd, ac wedi cael croeso i dŷ i dad cyn hyn;" a chydiodd Sian yng nghwr ei ffedog—i sychu ei gwefusau wrth gwrs—ond gwelodd Robin wrth ail-danio ei getyn gysgod congl o'r ffedog ar waith yn uwch i fyny. Bu yn fwy gochelgar ar ol hyn pan ddelai'r cwestiwn hwn gerbron.

Un dydd Gwener, ymhen tipyn o amser ar ol hyn, 'roedd Robin yn mynd ar ei siwrnai arferol heibio Rhoslan, a fu 'rioed ffasiwn ffustio ar Jupiter a Mercurius. Welodd o, er y dydd ganwyd o, y fath ddwy hen falwen ag oedd ganddo y diwrnod hwnnw. Ond codai anfoddogrwydd y gyrrwr, nid o arafwch eithriadol yr asynod, ond o'i frys eithriadol ei hunan. 'Roedd weather glass ysbrydol y felin ar change, ac yr oedd ei frys am gael dweyd hynny wrth Sian Ellis yn dwyn yr ysgrubliaid dan oruchwyliaeth chwerwaf y pastwn. 'Roedd crac yng nghastell annuwioldeb Morus Huws, a thêg oedd i Sian Ellis, fel un o wylwyr cywiraf Seion, gael gwybod am dano yn ddiatreg. Yn y cywair yna y rhagrithiai Robin wrth ei gydwybod fel rheswm am ei frys a'i ddefnydd diarbed o'r onnen. Ond gweledigaeth y ford a'r tebot, ynghydag enllyn yn wobrwy am gludo newydd mor bwysig, a'i gwnai yn fwy ei frys a llai ei amynedd y bore hwnnw nag arferol. "Mae o wedi altro," ebe Robin yn gyntaf peth pan ddaeth Sian i'r drws. "Be wedi altro?"