gofynnodd hithau. "Morus Huws," ebe Robin. "Fe soniodd wrtha i echdoe am dano'i hun yn yr Ysgol Sul pan yn hogyn; a neithiwr,—noson seiat,—fe stopiodd y felin chwarter i saith, er i bod hi yn brysurach acw nag arfer." Fe dywalltodd Robin y newydd am ben Sian gyda sydynrwydd annoeth. Fe'i goddiweddwyd hi gan lawenydd a hyfrydwch—yn gymaint felly fel yr anghofiodd gynnyg cwpanaid iddo; a gorfu iddo ymadael y diwrnod hwnnw—diwrnod y brys a'r brasgamu—yn llai ei groeso nag erioed. 'Roedd ei ddolur o golli ei gwpanaid yn anaele, a'i ymson wrth gefnu ar Sian yn bopeth ond Cristionogol. Os mai dylanwad newyddion da o lawenydd mawr ar bobol oedd peri iddyn' nhw anghofio lletygarwch a thebot, 'doedd o, peth siwr iawn oedd o, yn mynd i gario dim chwaneg o honyn' nhw. 'Dasa fo yn ffeindio dwy aden angel yn dechre tyfu o ystlysau Morus, mi gawsa hedeg hefo nhw cyn y brysia fo wedyn i ddweyd wrth Sian na neb arall. Pan oedd Robin yn fawr ei ymdrech, ar air a gweithred, yn ceisio perswadio Jupiter a Mercurius i adael heibio eu myfyrdodau, ac i ysgwyd y llwch oddiwrth eu carnau yn erbyn buarth Rhoslan, digwyddodd Sian Ellis ofyn iddo oedd Nel wedi dechre mynd i'r ysgol. Atebodd Robin dros ei ysgwydd ei bod yn mynd i'r Ysgol Sul, ond ei bod yn treulio y rhan fwyaf o'r wythnos yn y felin gyda Morus Huws. 'Roedd gweinidogaeth yr onnen erbyn hyn yn dechreu dwyn ffrwyth, a'r carnolion yn dechreu symud. Caeodd Sian y drws, ac eisteddodd
Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/36
Gwedd