Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ei chadair. Edrychodd i'r tân yn fyfyrgar, ac yr oedd symudiad ei gwefusau yn cyfateb i ynganiad distaw o ran o'r ail adnod yn yr wythfed Salm.

Geneth Robin Ifan oedd y Nel yr holai Sian Ellis yn ei chylch—geneth fach ddall, bedair oed. Yr oedd yn awr wedi dechreu mynd i'r felin gyda'i thad. Pe buasai Nel wedi gweled y gŵg oedd ar ael Morus Huws y tro cyntaf yr aeth i'r felin, mae yn debyg na fuasai mor daer am gael mynd yno eil-waith. "Ond geneth ddall oedd hi," a mynnodd fynd yno drachefn a thrachefn. 'Roedd yna ryw swyn rhyfedd iddi yn rhu yr olwynion a'r meini, a medrai eistedd i wrando arnyn: am ddarn diwrnod heb flino. Eisteddai y rhan amlaf ar un o'r sachau ŷd yn y gongl. Byddai yno amldra o honynt fel rheol yn cyd-sefyll gyda phob gweddusrwydd; ond cyd-sefyll y byddent. Yr oedd yr un egwyddor fawr Gristionogol mewn grym ymhlith y sachau ag oedd mewn grym ymhlith eu perchenogion hyd yr ardal—meichnïaeth. 'Roedd y naill sach yn "feichia" i'r llall, ac os syrthiai un fe syrthiai'r cwbl. Ond yno y safent—y gair FROST mewn llythyren fras ar y mwyafrif o honynt—yn gynulliad tawedog, costog a hunan-ddigonol, fel cynifer o gynrychiolwyr o 'sguboriau'r fro i Sasiwn y felin. Ar un o'r rhain yr eisteddai Nel oriau meithion lawer gwaith yn yr wythnos, ac yr oedd ei hanwyldeb a'i serchogrwydd yn graddol doddi y rhew oedd yn ysbryd Morus Huws. Cymerai fwy o ddiddordeb ynddi o ddydd i ddydd, a deuai hithau yn fwy