gwasgiad serchog ei braich fach am ei wddf fel cof-leidiad tyner meiriolwynt balmaidd. 'Roedd dylanwad dyrchafol y gymdeithas newydd hon ar y melinydd yn amlwg i bawb.
Ar ol rhai misoedd o fynd a dod i'r felin at Morus Huws, daeth rhyw wywdra sydyn dros Nel, ac awgrymai'r meddyg nad oedd gwellhâd iddi. Y pryd hwn anghofiodd y melinydd ei hun a'i feudwyaeth, ac ai i'r pentref yn gyson i edrych am dani. Holai hithau ef yn fanwl am y felin ac am bin y blawd. Un diwrnod, pan ddaeth i edrych am dani, gofynnodd Nel iddo fynd i'r felin i roi ei law dan y pin yn ei lle hi, a dod yno yn ei ol i ddweyd wrthi sut yr oedd. Cychwynnodd yntau ar unwaith, yn ol ei chais, ond meddiennid ef gan deimladau cymysglyd iawn. Llawer dengwaith yn yr wythnos y rhoddodd ei law dan y pin yn ddigon difeddwl am yn agos i hanner canrif, ond yr oedd cryndod yn ei law wrth ei hestyn ato heddyw—oherwydd llaw dirprwy oedd. Gwnaeth gydwybod i ddal ei law yn hir dan y blawd i edrych deimlai beth o'r cyfaredd oedd ynddo i Nel. Ond na, er fod y blawd yn disgyn fel arfer yn gynnes a thyner, 'roedd llaw Morus Huws yn rhy galed a garw i dderbyn y gogleisiad cyfareddol hwnnw. Gan na fedrai gario mewn geiriau yr argraff ddymunai Nel dderbyn ganddo oddiwrth y pin, meddyliodd y cymerai ddyrnaid ohono iddi i'r ty. Felly y gwnaeth. Daliodd gledr ei law dan y pin am ddyrnaid, a chymerodd ef felly i'r pentref yn gynnes oddiwrth y meini. Gofynnodd iddi ddal ei llaw, a