Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dihidlodd yntau y blawd yn raddol arni, ac nid blawd yn unig ddihidlodd Morus Huws y dydd hwnnw. "Mae mam yn deyd mod i'n mynd i ffwrdd yn bell," meddai Nel, tra roedd y blawd yn disgyn yn ysgafn ar ei llaw, "fydd yno bin blawd, Morus Huws?" "Hwyrach bydd, Nel bach," ebe ei mam yn floesg. "Pwy wneiff y nghodi i ato fo; fyddwch chi yno, Morus Huws?" gofynnai wedyn. Darfu y blawd o'r llaw. Trodd Morus Huws yn sydyn, cuddiodd ei wyneb yn ei ddwylo—dwylo oedd yn wynion gan weddillion y blawd dirprwyol—cerddodd allan gan siglo fel meddwyn, ac wylodd yn chwerw dost.

Bu farw Nel; ac yn ei hangladd hi y gwelwyd Morus Huws yn y capel am y waith gyntaf. Cyn pen nemor amser wedyn gwelid ef yn cyfeirio ei gamre tua'r capel ar nos Iau—noson seiat. Gwyddai pawb am ei gysylltiad â Nel, ac am ddylanwad hynny arno. Aeth Dafydd William, yr hen flaenor, ato i siarad, ond yr oll ddywedodd Morus Huws oedd, "Mae twllwch a dallineb wedi fy nal inna, ond mi leiciwn roi fy llaw dan y pin, os gwnewch chi nghymeryd i yn y'ch breichia." Gwyddai pawb ystyr ei eiriau. Rhoddwyd iddo dderbyniad cynnes, a bu yn aelod hyd ddiwedd ei oes. Gadawodd y gell oedd ganddo yn y felin, a gwnaeth ei gartref gyda Robin Ifan, yn y tŷ a gysegrwyd gan Nel.

Mae Morus Huws a Robin wedi eu hên gasglu at eu tadau. Lle safai'r felin nid oes ond murddyn yn awr; ac o'r olwyn ddŵr, fawr ei thrwst, nid oes