Shon Tomos, Ty Capel

POETA nascitur, non fit,[1]—a'r un modd rhaid dywedyd am ŵr ty capel. Nid llais eglwys, na doethineb pwyllgor a'i gwna: rhaid ei eni, ac yn ddiddadl fe anwyd Shôn Tomos i'r swydd. Yr oedd yr anianawd anhepgor honno ynddo wrth natur; ac i wneuthur ei etholedigaeth i'r gwaith gymaint a hynny sicrach, gofalodd rhagluniaeth am iddo gael ei eni mewn ty capel. Felly rhwng cymhwyster naturiol ac awyrgylch foreol ffafriol, tyfodd Shôn yn ŵr ty capel tan gamp. Yr oedd ei dad yn mawrhau yr un gwaith o'i flaen, a bu fyw i fynd yn hen iawn cyn cadw noswyl. Y gred gyffredin oedd mai ei ymlyniad wrth y gwaith o gadw ty capel a'i cadwodd rhag noswylio'n gynt. Efallai fod peth sail i haeriad Twm Ifan y crydd, mai gair yn Llyfr y Datguddiad oedd yn cyfrif am ei gyndynrwydd i 'madael:—"A theml ni welais
- ↑ Mae bardd yn cael ei eni, nid ei wneud.