ynddi," na dim siawns, felly, am dŷ capel, ebe Twm Ifan. Ond pa un bynnag a oedd a fynno gweledigaeth Ioan rywbeth a hwyrfrydigrwydd yr hen geidwad i gychwyn, cychwyn fu raid o'r diwedd; a Shôn ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
Hen lanc pump a deugain oed oedd Shôn pan fu farw ei dad a'i fam; ond priododd yn bur ddilol a diymdroi—nid o gariad nac o gydwybod, ond i wneyd y staff yn gyflawn fel y gweddai i dŷ capel. Ystyriai efe mai cadw ty'r capel oedd gwaith mawr ei fywyd. I hyn yr oedd wedi ei alw, ac wedi ei gymhwyso trwy brentisiaeth deugain mlynedd. Ond danodai'r wraig iddo yn dra mynych a miniog ei fod wedi addaw ei chadw hithau; ac amled oedd yr edliwiadau hyn, fel y cydsyniodd o'r diwedd, er mwyn heddwch a chymdogaeth dda, i gymeryd mwrthwl ac eistedd wrth dwr cerryg ar ochr y ffordd, o bnawn Llun hyd bnawn Sadwrn. Ond oherwydd y demtasiwn anwrthwynebol i ddal pen rheswm i'r fforddolion, a gwrthodiad pendant y mwrthwl i weithio heb Shôn, gelwid y cyfnod hwn yn ei yrfa wythnosol yn "oriau hamddenol " Shôn Tomos.
Heblaw y dyledswyddau arferol sydd yn perthyn i geidwad ty capel, yr oedd yr achos yn talu i Shôn am fwydo, diddosi, a diddanu y pregethwr o nos Sadwrn hyd fore Llun, a theimlai fod hyn yn ychwanegu yn fawr at ei ofalon a'i gyfrifoldeb. Ond nid oedd heb sylweddoli, yr un pryd, fod yr ymwelwyr hyn yn gosod rhyw urddas ychwanegol ar ei gronglwyd. Tybir mai sylweddoli y pwysig-