rwydd a berthynai i'r ty fel llety'r cenhadon barodd iddo geisio denu ei gymydogion i anghofio yr enw "Ty'r Capel," ac i'w alw enw newydd—
Gwynfa." Ond ofer fu'r cais, a Thy'r Capel" orfu. Buasai'r methiant wedi pasio yn weddol ddi-sylw, ac heb beri nemor flinder na gorthrymder ysbryd i Shôn Tomos, onibai i Guto Pyrs y go ganu cerdd faith ogleisiol i'r amgylchiad, dan y pennawd, "Coll Gwynfa."
Meddai Shôn Tomos wyneb diddorol, yn enwedig cyn i amser a defni parhaus gwraig dipyn yn anynad ei rychu. Llyfn a glân ydoedd, nid am ei fod yn fedrus yn ei ddefnydd o'r ellyn, ond am fod natur wedi rhagweld ei anfedrusrwydd, ac yn garedig wedi arbed iddo y drafferth honno. Ond i wneud iawn, hyd yr oedd yn bosibl, am foelni ei wyneb, gadawai i'w wallt dyfu yn llaes. Ychydig gymesuredd oedd rhwng gwahanol rannau ei wyneb; ond yr oedd gloewder a rhywbeth yn ymylu ar graffter yn ei lygaid—yn enwedig y llygad de. Cawsai ychydig anlwc i'r llall.
Yr oedd un peth nodedig yn perthyn i wisg Shôn Tomos, a gallesid ei adnabod o bell. Byddai ei gôt bob amser yn raenus a dymunol yr olwg: yn briodol ei thoriad, ac yn gymedrol ei thyndra. Ond nid felly ei lodrau. Byddai y rheini yn anghymedrol fawr bob amser. Byddai gormod o'r hanner, beth bynnag, o frethyn yn y dilledyn hwnnw, i orwedd gydag urddas a threfn o amgylch colofnau cynhaliol Shôn; ac yn y crush brethynnol hwnnw