Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr oedd rhyw anniddigrwydd a drwgdeimlad parhaus rhwng y gwrymiau a'r pantiau—y naill yn hergydio'r llall fel sectau crefyddol, ar hyd y dydd. Codai hyn o lêd neu amgylchedd anghymedrol y dilledyn. Yr oedd hefyd oddeutu pedair modfedd yn rhy hir, ond yr oedd ei breswylydd yn gwarchod rhag un—rhyw ysbryd cwerylgar cyffelyb allasai godi o laester ei lodrau, trwy dorchi tair modfedd, nes gwneuthur white flag heddychol o'r lining. Ond i wneuthur cyfiawnder a Shôn, rhaid egluro pam y mynnai wisgo fel hyn, oherwydd mynnu wnai. Nid llodrau wedi gwasanaethu eu tymor am aelodau breisgach na'r eiddo ef a wisgid ganddo. Nid lloffion oeddynt o dai boneddigion corffol, o'r fath a welir weithiau am segurwyr llipa conglau'r heolydd. Na, 'roedd llodrau Shôn Tomos, yn ogystal a'i gôt a'i wasgod, fel y mynnai efe i'r teiliwr eu gwneuthur. Yr oedd y neilltuolrwydd hwn yn ei wisg yn codi o'i syniad ef am ei rwymedigaeth fel gŵr ty'r capel i ddarparu ar gyfer y pregethwr. Llodrau paratoad oeddynt. Mynych iawn y byddai'r ddrycin yn dal y cennad Sabothol, a rhaid fyddai newid—yn enwedig y llodrau. Yn awr, dyn bychan oedd Shôn, ac yr oedd profiad a sylwadaeth blynyddoedd wedi dysgu iddo fod cyfartaledd da o genhadon hedd, fel o heddgeidwaid, yn wŷr preiffion. Felly dewisai drigo mewn eangder llodrol er mwyn y rhai oedd yn efengylu. Yr oedd Huw Huws y teiliwr yn y gyfrinach, a dyna ystyr ei sylw wrth Guto Pyrs—"'Rydw i yn gwneud siwt bwysig iawn yr wythnos yma. Mae'r gôt a'r wasgod