ungair cwta gŵr sychlyd gyda chwerthiniad aflywodraethus, ac yn ei ddyblau. Pan ddeuai ato'i hun, ac ymunioni, a chraffu pwy fyddai yn y gadair ddwyfraich gyferbyn, codai hiraeth angerddol ynddo am y gegin, lle yr ymneilltuai yn ddiatreg i ystyried ei ffyrdd ac i dywallt ei phiolau ar ben y gŵr dorrodd ei gyhoeddiad. Dan amgylchiadau felly byddai Shôn bron yn anobeithio a digaloni, a bygythiai weithiau wrth Beti roddi crefydd a'r ty capel i fyny. Tra yr oedd y pechod ysgeler o dorri cyhoeddiad yn ffynnu cymaint, ac yn dal ei ben mor uchel, teimlai fod yn amhosibl cael graen na llewyrch ar wedd ysbrydol yr achos mewn ty capel. Weithiau, bid siwr, ni wyddai Shôn pwy i'w ddisgwyl at y Sul dilynol, ond byddai yn cyfarfod yr anhawster hwnnw yn weddol ddidramgwydd trwy gymeryd yr wythnos i feithrin math o neutrality yn ei ysbryd.
Nid oedd yr eglwys wedi gweled yn dda ei godi yn flaenor, ond gwelodd Shôn yn dda eistedd yn y sêt fawr ohono ei hun—yr hyn oedd yn dod i'r un peth, i'w deimlad ef. Iddo ef, bod yn y sêt fawr oedd bod yn flaenor. Nid oedd y gwahaniaeth rhwng dyn yn eistedd yno ohono ei hun ac un wedi ei ddewis gan y frawdoliaeth yn apelio o gwbl ato. Ac, yn wir, yr oedd ganddo y peth nesaf i hawlfraint enedigol i fod yn y sêt fawr. Fe'i ganwyd am y pared a hi. Wal ddeunaw modfedd, yn ol Shôn ei hun, oedd rhyngddo a chael ei eni yn flaenor. Oherwydd yr ystyriaethau hyn a'u hadnabyddiaeth