Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ohono, yr oedd yr eglwys a'r swyddogion yn medru dygymod a'i bresenoldeb dan y pulpud. Ond nid hir y bu Shôn yn y sêt fawr na sylweddolodd ei fod wedi gosod ei hun yng ngafael peryglon a themtasiynnau na feddyliodd am danynt. Gwelodd fod ei baratoad arno ei hun fel gŵr ty'r capel i fod yn gwmni i'r pregethwr yn y parlwr nos Sadwrn yn ei anghymwyso ar adegau i wrando fel pechadur yn y sêt fawr ddydd Sul. Pan fyddai pregethwr diddan a doniol yn y daith, âi Shôn, fel y crybwyllwyd, trwy gwrs o baratoad priodol yn ystod yr wythnos ar ei gyfer; a nos Sadwrn, rhwng cyfaredd dawn y pregethwr, a'i barodrwydd yntau i fwynhau a phorthi, byddai yn colli pob llywodraeth arno ei hun yn yr hwyl a'r gorfoledd. Gwawriai'r Sul drannoeth, a phan ddeuai deg o'r gloch, âi'r pregethwr i'r pulpud a Shôn i'r sêt fawr. Ond pan ddechreuai'r pregethwr ar ei bregeth, a phan roddai dipyn o'r ffrwyn i'w ddawn a'i ffraethineb, byddai rhywbeth yn mynd dros lygaid Shôn, ac, ar darawiad, cai ei hun yn y parlwr, ac yna ymollyngai i chwerthin fel ynfytyn, a chollai bob llywodraeth arno ei hun, nes dyrysu'r holl wasanaeth. Digwyddodd hyn droion, fel y bu raid i'r swyddogion feddwl am ei alw i gyfrif. Ond cyn iddynt o fod gwneuthur hynny gwelodd Shôn mai doethineb ynddo fyddai mudo i'w hen sêt yn ol. Yr oedd honno yn y pen pellaf yn ymyl y drws; ac o'r pellter hwnnw yr oedd yn gallu gwrando'r genadwri mewn hunanfeddiant gweddaidd. Ond yr oedd