Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eistedd yn y sêt fawr wyneb yn wyneb ag ambell bregethwr yn peri iddo gymysgu y parlwr a'r cysegr, ac anghofio'r wal ddeunaw modfedd oedd rhyngddynt.

Nid oedd rheolau ty'r capel yn caniatau i Shôn Tomos gadw unrhyw "dda byw," er daed fuasai cael cynnyrch clwyd a chwt i chwyddo tipyn ar enillion prin y twr cerryg. Ffurfiwyd y rheol hon, nid i gadw Shôn rhag ymrwystro gyda negeseuau y bywyd hwn—nid oedd ei hangen i hynny—ond i warchod rhag i amlder doniau yng nghyffiniau y capel oddiallan beri rhwystr i ddoniau yr addolwyr oddimewn. Ond cai Shôn hyfrydwch nid bychan yn torri llythyren y gyfraith trwy achlesu cath a pharrot dan ei gronglwyd. Un o dduwiau Aifft ei hen-lancyddiaeth oedd y gath; ac nid oedd dyfodiad Beti wedi effeithio dim ar ymlyniad Shôn wrth yr eilun hwnnw. Dygwyd y parrot yn anrheg iddo gan gefnder o forwr, ac er fod y ddeddf yn gwahardd da pluog, fe anturiodd ei noddi a'i gadw. Bu yn fawr ei bryder yn y dechreu, a dioddefodd erledigaeth dost yn ystod yr wythnosau cyntaf ar ol dyfodiad y parrot, oherwydd fod ei iaith ymhell o fod yn gweddu i dŷ capel. Teimlai Shôn ei hunan iasau o euogrwydd yn ei gerdded oherwydd noddi y tramorwr hwn oedd yn peri i barwydydd mor gysegredig adseinio i'w wawchiadau rheglyd. Ar gymhelliad y saint a'r swyddogaeth addawodd ei ystyried fel aelod ar brawf, a'i esgymuno ymhen ysbaid os na byddai yn diwygio, ac yn rhoddi heibio yr "hen ddyn o'r môr." Yr oedd digon o'r athro