yn Shôn i wybod mai'r ffordd oreu i beri iddo. anghofio'r hen dafodiaith oedd trwy ddysgu iddo eiriau newyddion, a dechreuodd ar unwaith ar y gwaith o ddysgu iddo rai o'r prif eiriau cyfundebol—geiriau fel "pregethwr," "
pregethwr," "blaenor," "trysorfa," chasgliad." Dysgodd y parrot y cyfan yn hynod ddidrafferth, a thybiodd Shôn fod ei waith ar ben, a chymeriad ty'r capel wedi ei ddiogelu. Ond cafodd ei siomi yn aruthr. Syrthiodd ty'r capel i fwy gwarth, a Shôn i fwy tristwch nag ar y dechreu. Cymerodd rhyw ysbryd maleisus feddiant o'r parrot a chyfarwyddodd ef i gyplysu ansoddeiriau'r môr wrth brif eiriau'r cyfundeb—ieuad oedd yn peri i wallt llaes Shôn sefyll ar ei ben. Oherwydd yr anystyriaeth a'r rhyfyg diweddaf hwn alltudiodd ef yn ddiymdroi i gwr pella' lloft pen y gegin.
Ar ol treulio amser maith mewn alltudiaeth a chaethiwed aeth yr aflaniaith a'r aflwydd heibio, ac adferwyd y parrot i'w hen gongl. O dipyn beth daeth i gymeryd cryn ddiddordeb yng ngweithrediadau nos Sadwrn. Clywai'r gair pregethwr yn fynych gan Shôn a Beti fel y byddai'r amser yn agoshau; ac wrth eu gweled yn fawr eu prysurdeb a'u ffwdan, ymeflid ynddo yntau gan ysfa ymysgwyd a rhwyfo: ymsiglai ar ei glwyd, curai ei adenydd yn erbyn parwydydd ei wieildy gan waeddi "pregethwr," "pregethwr," a dylanwadai hynny drachefn ar Shôn a Beti, nes eu gwneud yn saith prysurach. Troid y pregethwr, ar ei ddyfodiad, i'r parlwr, ac nid oedd modd i Pol, o neilltuaeth